QI

QI (Quite Interesting)
Genre Comedi/Gêm banel
Crëwyd gan John Lloyd
Cyfarwyddwyd gan Ian Lorimer
Cyflwynwyd gan Stephen Fry (2003-2016)
Sandi Toksvig (2016-)
Serennu Alan Davies (2003-)
Cyfansoddwr y thema Howard Goodall
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 19
Nifer penodau 279 (yn ogystal â phennod peilot sydd heb gael ei darlledu)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd John Lloyd
Amser rhedeg 30 munud
(45 munud ar gyfer QI XL)
(30 munud ar gyfer QI VG)
Cwmnïau
cynhyrchu
Talkback
Quite Interesting Limited
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Four (2003-08)
BBC Two (2003-08; 2011-)
BBC One (2009-11)
BBC HD (2010; 2011-13)
BBC One HD (2010-11)
BBC Two HD (2013-)
Rhediad cyntaf yn 11 Medi 2003 - presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Gwefan y cynhyrchiad
Proffil IMDb

Rhaglen deledu cwis ar ffurf gêm banel comig yw QI, sy'n sefyll am Quite Interesting. Cafodd ei chreu a'i chynhyrchu gan John Lloyd a'i cyflwynir gan Sandi Toksvig (wedi iddi gymryd lle'r cyflwynydd gwreiddiol, Stephen Fry, ar ôl cyfres 13). Mae Alan Davies wedi ymddangos ymhob pennod fel panelydd rheolaidd.

Darlledwyd ar BBC Two a BBC Four, a dangosir hen benodau ar UKTV G2/Dave. Nodir QI am gael ffigurau gwylio uchaf unrhyw raglen ar BBC Four.[1] O gyfres F yn 2008 ymlaen, symudodd y rhaglen i BBC One, gydag ail-ddarllediadau estynedig yn cael eu darlledu ar BBC Two (o'r enw QI XL). Gan ddechrau gyda'r nawfed gyfres, symudodd y brif raglen i BBC Two hefyd. Ym mis Hydref 2015, cyhoeddwyd mai cyfres M fyddai'r gyfres olaf i gael ei chyflwyno gan Stephen Fry a daeth y gomediwraig Sandi Toksvig yn ei le.

  1. (Saesneg) QI: Audience figures. QI.com. Adalwyd ar 11 Awst, 2007.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search